Amseroedd Cau Dros Y Nadolig

The college is now closed until Monday 5 January. If you’ve enquired about a course or applied to join us this January, we’ll aim to respond within 3-5 working days once we re-open.

Wishing you a Merry Xmas and Happy New Year.

Undeb y Myfyrwyr

Student Union

Undeb Myfyrwyr Coleg Gwent - CGSU

Mae bywyd yn y coleg yn troi o gwmpas Undeb y Myfyrwyr – ac yn Coleg Gwent, mae yna undeb sydd wedi ennill nifer o wobrau!

Pan fyddwch chi’n cofrestru yn y coleg, byddwch yn dod yn aelod o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) yn awtomatig a gallwch gael mynediad i gyfleusterau a gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr. Gallwch hefyd fanteisio ar ystod eang o ostyngiadau ar y stryd fawr ac ar-lein, trwy gerdyn TOTUM NUS Extra.

Mae Undeb Myfyrwyr Coleg Gwent yn cynrychioli eich barn yn y coleg a’r tu allan, yn ymgyrchu ar faterion sy’n effeithio ar fyfyrwyr, yn cynnig cefnogaeth gydag unrhyw broblemau sydd gennych ac yn cynnal digwyddiadau hyfforddi i helpu swyddogion Undeb y Myfyrwyr.

Cymryd Rhan

Fel aelod o'r Undeb Myfyrwyr gallwch gymryd rhan mewn pob math o ffyrdd, a chewch gyfle i:

  • Gynrychioli’r myfyrwyr yng nghynadleddau’r NUS
  • Cwrdd â phobl newydd
  • Gwneud newidiadau cadarnhaol yn y coleg ac yn genedlaethol
  • Ennill sgiliau a phrofiadau newydd
  • Gwella eich CV