{"id":22077,"date":"2025-04-08T14:30:00","date_gmt":"2025-04-08T13:30:00","guid":{"rendered":"https:\/\/bloom.coleggwent.ac.uk\/?post_type=news&#038;p=22077"},"modified":"2025-09-04T10:26:58","modified_gmt":"2025-09-04T09:26:58","slug":"aspiring-young-doctor-finds-path-to-success-through-access-to-medicine-course","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/bloom.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/aspiring-young-doctor-finds-path-to-success-through-access-to-medicine-course","title":{"rendered":"Meddyg ifanc uchelgeisiol yn ennill llwyddiant drwy cwrs Mynediad i Feddygaeth"},"content":{"rendered":"<div class=\"feature-wyzsiwyg panel-m accent-yellow\">\n    <div class=\"feature-wyzsiwyg__inner inner\">\n        <div class=\"feature-wyzsiwyg__container fade-in\">\n                                                                        <div class=\"wyzsiwyg wyzsiwyg-general\">\n                            <h2 class=\"globalContent_sub_title fs_bold fs_14\">Gan oresgyn anawsterau ariannol, rhwystrau academaidd a hunan-amheuaeth<\/h2>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Gan oresgyn anawsterau ariannol, rhwystrau academaidd a hunan-amheuaeth, fe gafodd Miriam, sef mam ifanc benderfynol i ddau, gyfle arall i ennill ei swydd ddelfrydol drwy gwrs Mynediad i Feddygaeth yn Coleg Gwent.<\/p>\n<p>Mae hi bellach yn astudio BSc Gwyddorau Meddygol (Anrh) ym Mhrifysgol Caerdydd \u2013 sef cwrs bwydo ar gyfer y radd israddedig mewn Meddygaeth.<\/p>\n<p class=\"translation-block\">Mae\u2019r cwrs mynediad, a gyflwynir mewn partneriaeth ag Agored Cymru ac Ysgol Feddygaeth Caerdydd, yn rhaglen astudio ddwys gyda ffocws ar ystod o feysydd pwnc sydd yn hanfodol tuag at baratoi ar gyfer symud ymlaen i radd feddygol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwrs yn fwy na chymhwyster yn unig \u2014 mae\u2019n achubiaeth ar gyfer y rheini a oedd yn meddwl bod gradd feddygol tu hwnt i\u2019w cyrraedd. P\u2019un oherwydd trafferthion ariannol, anawsterau academaidd yn y gorffennol neu ddiffyg arweiniad, mae\u2019r rhaglen hon yn darparu cefnogaeth deilwredig, addysg gan arbenigwyr a chyfleoedd i gael cyfweliadau gwarantedig \u00e2 phrifysgolion.<\/p>\n<p>Meddai Miriam: \u201cEs i i\u2019r coleg yn gyntaf yn 18 oed, ac yn y pen draw gadawais heb lefelau A oherwydd niwro-amrywiaeth heb ddiagnosis a\u2019r farn nad oeddwn i\u2019n ddigon da.<\/p>\n<p>\u201cBlynyddoedd wedyn, pan welais y cwrs Mynediad i Feddygaeth roedd y coleg yn ei gynnig, roeddwn i\u2019n gwybod taw hwn oedd yn union y cwrs roeddwn i\u2019n chwilio amdano. Roeddwn i am weithio i ennill gyrfa fel meddyg yn y GIG, a gwnaeth y cwrs hwn roi cyfle i mi wireddu hyn, a hyd yn oed cael cyfweliadau gwarantedig gyda rhai o\u2019r prifysgolion gorau.\u201d<\/p>\n<p>Fe wnaeth y cwrs nid yn unig roi\u2019r hyn a oedd angen ar Miriam i symud ymlaen yn ei gyrfa, ond fe wnaeth hefyd adfer ei hyder a\u2019i chred yn ei galluoedd.<\/p>\n<p>\u201cRoedd dychwelyd i\u2019r coleg fel dysgwr aeddfed yn brofiad mor gadarnhaol, yn enwedig o ystyried fy nghanlyniadau lefel A siomedig. Dydw i erioed wedi teimlo\u2019n fwy hyderus na medrus diolch i\u2019r darlithwyr anhygoel a wnaeth fy helpu i ailddarganfod fy nghymhelliant.<\/p>\n<p>\u201cDoedd hi ddim yn hawdd cydbwyso astudiaethau \u00e2 bod yn rhiant \u2014 roeddwn yn aml yn gorffen gwaith cwrs ar lawr y stiwdio ddawns tra roedd fy merch mewn gwers. Ond roedd pob noson hwyr a phenwythnos a gollwyd yn dod \u00e2 fi un cam yn nes at fy mreuddwyd.<\/p>\n<p>\u201cMi wnes i gwblhau\u2019r cwrs Mynediad i Feddygaeth yn 2024 a gadael gyda chanlyniadau sy\u2019n cyfateb ag AAB, sef bydoedd ar wah\u00e2n oddi wrth y ferch ifanc a oedd yn cael trafferth eistedd drwy wers, heb s\u00f4n am arholiad 12 mlynedd yn \u00f4l.<\/p>\n<p>\u201cRydw i mor falch ohonof fy hun am gwblhau\u2019r cwrs a chael cynnig gan brifysgol i ddilyn fy angerdd am ddod yn feddyg. Ar hyn o bryd, rwy\u2019n astudio\u2019n llawn amser wrth gydbwyso bywyd cartref prysur iawn yn edrych ar \u00f4l dau blentyn ifanc.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n gwybod y bydda i\u2019n astudio am y saith mlynedd nesaf i gyrraedd lle rydw i am fod, ond mae gyrfa yn y maes meddygaeth yn ymrwymiad oes, a thrwy wneud hyn, rydw i\u2019n rhagori ar fy mreuddwydion eithaf. Rydw i mor ddiolchgar i Coleg Gwent am fy narparu gyda\u2019r sgiliau academaidd a gwyddonol a fydd yn aros gyda fi drwy gydol fy addysg a\u2019m gyrfa yn y dyfodol. Ond, yn bennaf oll, rwy\u2019n ddiolchgar am gael cymorth wrth ddysgu y gallwn gyflawni unrhyw beth.<\/p>\n<p>Mae cwrs Mynediad i Feddygaeth Coleg Gwent yn darparu llwybr i unigolion efallai na fyddant fel arall wedi cael cyfle i fynd ar drywydd eu gyrfa ddelfrydol yn y maes meddygaeth. Mae\u2019r cwrs paratoi naw mis o hyd yn paratoi myfyrwyr yn benodol ar gyfer cyrsiau gradd megis Meddygaeth a Deintyddiaeth a graddau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 gwyddoniaeth feddygol.<\/p>\n<p>Bydd myfyrwyr yn astudio ystod o unedau academaidd gan gynnwys bioleg, cemeg a ffisioleg ynghyd ag ystod o unedau a gynlluniwyd i wella sgiliau academaidd myfyrwyr.<\/p>\n<p>Meddai Dr. Catherine Garland, sef darlithydd Mynediad i Feddygaeth yn Coleg Gwent: \u201cRydym yn hynod falch o\u2019r hyn mae Miriam wedi\u2019i gyflawni. Cynlluniwyd ein cwrs Mynediad i Addysg er mwyn chwalu rhwystrau ac agor drysau i ddarpar weithwyr proffesiynol y maes meddygaeth, ac mae stori lwyddiant Miriam yn dyst i effaith y fenter hon. Rydym yn ymrwymedig i gefnogi ein myfyrwyr ar bob cam o\u2019r ffordd, ac edrychwn ymlaen at weld llawer mwy o straeon llwyddiant yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n<p>I Miriam a llawer eraill, mae\u2019n gam cyntaf tuag at ddyfodol mwy disglair yn gweithio yn y maes meddygaeth.<\/p>\n<p>Os ydych chi erioed wedi breuddwydio am yrfa yn y maes meddygaeth ond wedi ei hystyried yn amhosib, efallai <a href=\"https:\/\/bloom.coleggwent.ac.uk\/cy\/course\/AC0037\/agored-cymru-access-to-he-medicine-level-3\/?uioid=531471\">y cwrs Mynediad i Feddygaeth<\/a> yw eich ffordd tuag at lwyddiant.<\/p>\n                        <\/div>\n                                                    <\/div>\n    <\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"featured_media":22078,"template":"","category":[66,10],"class_list":["post-22077","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-news","category-success-stories"],"pp_statuses_selecting_workflow":false,"pp_workflow_action":"current","pp_status_selection":"publish","pp_post_mime_type":"","acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/bloom.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/22077","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/bloom.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/bloom.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/bloom.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/22077\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22080,"href":"https:\/\/bloom.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/news\/22077\/revisions\/22080"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bloom.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22078"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/bloom.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22077"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/bloom.coleggwent.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/category?post=22077"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}